Papur gan Glerc y Pwyllgor
Dyddiad: Chwefror 2016
Deisebau y cynigir y dylid eu cau
Diben
1. Mae'r papur hwn yn gofyn i'r Pwyllgor ystyried y posibilrwydd o gau rhestr o ddeisebau segur.
Y cefndir
2. Yn ei gyfarfod diwethaf cytunodd y Pwyllgor y byddai'r ysgrifenyddiaeth yn paratoi rhestr o ddeisebau anweithredol neu segur y dylid ystyried y posibilrwydd o'u cau yng nghyfarfod nesaf y Pwyllgor, o gofio bod y Cynulliad presennol yn dirwyn i ben.
3. Mae rhestr o ddeisebau y cynigir y gellid eu cau wedi'i atodi i'r papur hwn, ynghyd â dyddiadau'r tro cyntaf a'r tro diwethaf iddynt gael eu trafod a chrynodeb byr o'r rheswm dros gynnig eu cau. Ym mhob achos, mae ysgrifenyddiaeth y Pwyllgor wedi ceisio cysylltu â'r deisebydd i gael gwybod a oes unrhyw reswm pam na ddylai'r ddeiseb gael ei chau. Ac eithrio pan nodir fel arall, ni ddaeth ymateb i law gan y deisebwyr ar y rhestr.
4. Cynigir y dylid cau pob un o'r deisebau ar y rhestr. Fodd bynnag, mae'n bosibl y gallai rhai deisebwyr ymateb o hyd. Er mwyn cymryd hynny i ystyriaeth, os bydd deisebwyr yn ymateb mewn pryd i'w deiseb gael ei thrafod yng nghyfarfod olaf y Pwyllgor, ac os byddant yn gofyn iddi aros ar agor, caiff y deisebau hyn eu dwyn yn ôl i gyfarfod olaf y Pwyllgor i'w hystyried ymhellach.
Camau gweithredu
5. Gwahoddir y Pwyllgor i ystyried y rhestr o ddeisebau y cynigir eu cau ac, yn unol â pharagraff 4 uchod, ystyried a ddylid eu cau.
Rhif y ddeiseb |
Teitl |
Ystyriwyd yn gyntaf |
Ystyriwyd ddiwethaf |
Rheswm dros argymell y dylid eu cau |
P-03-150 |
Safonau canser cenedlaethol |
09.07.08 |
11.11.14
|
Cafwyd dadl ynghylch adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar Gynllun Cyflawni Llywodraeth Cymru ar gyfer Canser yn y Cyfarfod Llawn ar 10/12/14 |
P-03-313 |
Rheoliadau Lles Anifeiliaid (Bridio Cŵn) (Cymru) 2011 |
25.01.11 |
29.11.11 |
Segur |
P-04-319 |
Deiseb ynghylch traffig yn y Drenewydd |
21.06.11 |
30.6.15 |
Mae'r cynllun yn symud yn ei flaen. Gofynnwyd i Lywodraeth Cymru am y wybodaeth ddiweddaraf ynglŷn â'i statws. Mae aelodau'r Pwyllgor wedi nodi'n flaenorol eu bod yn fodlon i'r ddeiseb gael ei chau. |
P-04-322 |
Galwad am ryddhau gafael Cadw ar eglwysi |
21.06.11 |
19.03.13
|
Segur |
P-04-338 |
Deiseb ynghylch ymdrech Severn Trent Water i werthu ystâd Llyn Efyrnwy |
11.10.11 |
11.10.11 |
Segur |
P-04-339 |
Gorfodi safonau lles anifeiliaid yn y diwydiant ffermio cŵn bach yn ne-orllewin Cymru. |
11.10.11 |
13.03.12 |
Segur |
P-04-354 |
Datganiad cyhoeddus yn cefnogi Bradley Manning |
10.01.12 |
27.03.12 |
Segur |
P-04-393 |
Grŵp gweithredu ffordd osgoi Llanymynech a Phant |
29.05.12 |
03.02.15
|
Segur - wedi methu â chysylltu â'r deisebwyr |
P-04-438 |
Hygyrchedd wrth siopa |
20.11.12 |
18.06.13 |
Segur |
P-04-448 |
Gwella gwasanaethau iechyd rhywiol yng ngorllewin y Fro |
29.01.13 |
03.02.15 |
Segur |
P-04-451 |
Achub gwasanaethau Ysbyty Brenhinol Morgannwg |
29.01.13 |
04.06.13 |
Segur |
P-04-454 |
Gwahardd yr arfer o ddal swyddi fel Cynghorydd ac fel Aelod Cynulliad ar yr un pryd |
29.01.13 |
28.04.14 |
Wedi cysylltu â'r deisebydd, a nododd ei fod yn fodlon cau'r ddeiseb. |
P-04-494 |
Rhaid sicrhau bod prostadectomi laparosgopig gyda chymorth robotig ar gael i ddynion yng Nghymru yn awr |
16.07.13 |
20.10.15 |
Wedi ysgrifennu at y deisebydd ar sawl achlysur, yn fwyaf diweddar ar 5 Chwefror. Dim cyswllt gan y deisebydd ers mis Mawrth 2015. |
P-04-527 |
Ymgyrch i gael Cronfa Cyffuriau Canser Arbennig yng Nghymru |
21.01.14 |
10.03.15 |
Segur - wedi ysgrifennu at y deisebydd ar sawl achlysur, yn fwyaf diweddar ar 29 Ionawr. Dim cyswllt gan y deisebydd ers i'r ddeiseb gael ei hystyried gyntaf ym mis Ionawr 2014. |
P-04-545 |
Gweithdrefnau Bwrdd Iechyd Lleol Aneurin Bevan |
29.04.14 |
15.07.14 |
Segur - wedi ysgrifennu at y deisebydd ar sawl achlysur, yn fwyaf diweddar ar 29 Ionawr. Dim cyswllt gan y deisebydd ers mis Mehefin 2014. |
P-04-550 |
Pwerau cynllunio |
13.05.14 |
14.07.15 |
Cau - cysylltwyd â'r deisebydd, a nododd yn ei ymateb fod y mater yn sicr yn dal i fod yn un cyfredol, ond na allai weld unrhyw rinwedd mewn cadw'r ddeiseb hon ar agor a chymryd amser gwerthfawr Pwyllgor y Cynulliad. |
P-04-558 |
Gwahardd e-sigaréts i bobl ifanc o dan 18 oed |
17.06.14 |
17.06.14 |
Segur ers y tro cyntaf iddi gael ei hystyried - fodd bynnag derbyniodd y Cynulliad Gynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar reoleiddio oedran gwerthu e-sigaréts ym mis Chwefror 2014. |
P-04-571 |
Trin anemia niweidiol |
15.07.14 |
22.09.15 |
Dim cyswllt â'r deisebydd ers mis Awst 2015. |
P-04-579 |
Adfer cyllid ar gyfer monitro gwylogod Ynys Sgomer |
23.09.14 |
02.06.15 |
Segur |
P-04-580 |
Cyfyngiadau ar roi gwaed |
23.09.14 |
09.12.14 |
Segur |
P-04-582 |
Newid mawr ei angen i’r rheolau yn ein hysgolion o ran llau pen a nedd |
23.09.14 |
25.11.14 |
Segur |
P-04-588 |
Siarter ar gyfer plant a tadau |
23.09.14 |
22.09.15 |
Mae'r deisebydd wedi ymateb gan nodi ei fod yn fodlon cau'r ddeiseb. Dosbarthwyd ei sylwadau ychwanegol ar y broses ddeisebu i Aelodau ar wahân. |
P-04-591 |
Cyllid teg ar gyfer Llywodraeth Leol |
23.09.14 |
20.01.15 |
Cau - wedi cysylltu â'r deisebydd a ymatebodd yn gofyn am gau'r ddeiseb cyn belled â bod y setliad yn aros yr un fath |
P-04-614 |
Cefnogi gwasanaeth dosbarth cyntaf Arriva Trains Cymru |
03.02.15 |
12.05.15 |
Segur - dim cyswllt â'r deisebydd ers mis Hydref 2014 |
P-04-615 |
Taliad benthyciad teg i fyfyrwyr yn y flwyddyn olaf o hyfforddiant |
03.02.15 |
12.05.15 |
Segur - dim cyswllt â'r deisebydd ers mis Ionawr 2015 |
P-04-617 |
Stopiwch y trosglwyddo dilyffethair o lyfrgelloedd cyhoeddus i'r sector gwirfoddol |
24.02.15 |
14.07.15 |
Segur - dim cyswllt â'r deisebydd ers mis Mai 2015 |
P-04-618 |
Diogelu gwasanaethau bancio mewn cymunedau hawdd eu targedu |
24.03.15 |
02.06.15 |
Y camau diwethaf oedd anfon sylwadau'r deisebydd at y Gweinidog i'w hanfon ymlaen at y Grŵp Strategaeth Cynhwysiant Ariannol. Wedi cysylltu â'r deisebydd i ofyn a yw'n dymuno parhau â'r ddeiseb - dim ymateb wedi dod i law |
P-04-626 |
Israddio ffordd yr A487 drwy Penparcau, Trefechan ac Aberystwyth |
24.03.15 |
08.12.15 |
Nododd y Pwyllgor yn flaenorol ei fod yn awyddus i gau'r ddeiseb gan ei bod yn anodd gweld pa gamau ychwanegol y gellid eu cymryd yn y Cynulliad hwn. Wedi cysylltu â'r deisebydd ar 20/1/16 - dim ymateb hyd yn hyn. |
P-04-627 |
Gwella gwasanaethau trên i gymudwyr ar gyfer trigolion Gogledd Cymru |
24.03.15 |
16.06.15 |
Segur |
P-04-640 |
Gostwng yr oedran ar gyfer profion ceg y groth i 18. |
30.06.15 |
06.10.15 |
Dim cysylltiad gan y deisebydd ers mis Medi 2015
|
P-04-642 |
Achubwch brosiect Filter - ymgyrch a sefydlwyd i atal pobl ifanc rhag ysmygu ac i'w helpu i roi'r gorau iddi |
14.07.15 |
22.09.15 |
Cau - wedi cysylltu â'r deisebydd a ymatebodd gan ddweud eu bod, yn dilyn trafodaethau gyda Llywodraeth Cymru, wedi sicrhau arian rhannol a thros dro ar gyfer y prosiect Filter ac felly y byddent yn hoffi cau'r ddeiseb hon.
Ychwanegwyd eu bod am gyfleu eu diolch diffuant i'r Pwyllgor am dreulio amser yn edrych ar y ddeiseb. |
P-04-647 |
Newid yr oedran y mae'n rhaid talu am docyn oedolyn o 16 i 18. |
14.07.15 |
14.07.15 |
Segur - dim ymateb gan y deisebydd ers i'r ddeiseb gael ei chyflwyno. |